Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi defnyddio diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd i lansio'u Cynllun Canolbarth Cymru i greu sylfaen gadarn ar gyfer hybu menter, swyddi a ffyniant.
Ar ôl chwarter canrif o reolaeth Llafur yng Nghymru, sydd wedi canolbwyntio'n gryf ar ran ddeheuol y wlad, mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Ganolbarth Cymru, James Evans AS, wedi cyhoeddi wyth polisi i adfywio'r rhanbarth gyda mentrau sy'n pontio nifer o feysydd polisi. Y rhain yw:
- Creu mwy o swyddi a buddsoddiad yng Nghanolbarth Cymru drwy leihau'r baich ariannol ar fusnesau
- Torri'r Dreth Gyngor trwy Gronfa Cefnogi Prentisiaid a fydd yn helpu'r rhai sydd eisiau hyfforddi ac aros yng Nghanolbarth Cymru
- Ymgyrchu i estyn y Rhyddhad Treth ar Danwydd i ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru i gefnogi swyddi a'r economi leol
- Mynd i'r afael â materion sy'n effeithio'n benodol ar gymunedau gwledig trwy Gronfa Adnewyddu Pentrefi
- Sicrhau gofal iechyd effeithlon i Ganolbarth Cymru drwy uwchraddio ein Hysbytai Cymunedol fel y gallant ddarparu triniaethau mwy arbenigol yn lleol
- Moderneiddio'r A470 i wella'r llif traffig, a manteisio ar y cyfle i osod mannau gwefru CT cyflym fel y bydd Canolbarth Cymru yn barod am y dyfodol
- Datblygu'r cynnig twristiaeth a helpu busnesau lleol i greu swyddi drwy sefydlu Bwrdd Croeso Canolbarth Cymru
- Diogelu ein cefn gwlad ar gyfer y dyfodol drwy ddynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae Canolbarth Cymru wedi’i chael hi’n anodd cystadlu â'r rhanbarthau eraill erioed gan nad oes llawer o fusnesau o faint canolig wedi ymsefydlu yma. Mae wedi cael ei dangyllido'n ddifrifol gan lywodraeth leol, a bydd yn ddioddef oherwydd cynlluniau'r Llywodraeth Lafur i gyflwyno treth dwristiaeth a gyrru darparwyr llety allan o'r sector.
Meddai AS y Ceidwadwyr Cymreig dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, James Evans:
“Rwyf wrth fy modd heddiw o gael lansio Cynllun y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Canolbarth Cymru o’r diwedd – mae gwir angen cymorth ar gymunedau Canolbarth Cymru gan iddynt gael eu hanwybyddu am ddegawdau gan Lafur a’u cefnogwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae angen pecyn uchelgeisiol o fentrau fel hwn i adfywio'r economi ar ôl Covid, ac ar ôl Llafur gobeithio, oherwydd byddwn yn syrthio ymhellach yn ôl os na allwn droi’r fantol nawr.
“Mae ein cynllun yn cynnwys cynigion cyffrous sy'n lleihau trethi i fusnesau ac unigolion, sydd o fudd uniongyrchol i bobl o bob grŵp oedran, sy'n cefnogi ein diwydiannau mwyaf gwerthfawr, yn dathlu ein tirweddau, ac yn ariannu seilwaith mawr ei angen.
“Yn anffodus, rydym yn gweld bod y pleidiau eraill yn ysu am drethu ein sectorau blaenllaw ac yn canolbwyntio ar greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn hytrach na mwy o swyddi yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn anelu’n ddiymddiheuriad at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac rydym yn barod i'w chyflawni.”
Nodiadau i Olygyddion: Mwy o fanylion am Ein Cynllun ar gyfer Canolbarth Cymru.
- Creu mwy o swyddi a buddsoddiad
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ymrwymedig i greu o leiaf un Porthladd Rhydd yng Nghymru, gydag ail un yn bosibl drwy gais eithriadol. Er nad yw Porthladdoedd Rhydd wedi'u cyfyngu i borthladdoedd yn unig, nid oes unrhyw gynnig ar y gweill ar hyn o bryd yn seiliedig ar orsaf drenau neu faes awyr.
Byddai'r fenter yn cael ei chyflwyno mewn ardal yng Nghanolbarth Cymru i efelychu rhai o’r manteision Porthladd Rhydd sydd o fewn maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Y nod fyddai annog busnesau i agor ac ehangu drwy gymhellion fel lleihau ardrethi busnes a gwella lwfansau cyfalaf. Gallai'r ardal gael ei ehangu i gynnwys elfennau ychwanegol, gyda chymorth Llywodraeth Geidwadol y DU.
Annog menter, lleihau ardrethi a hybu ffyniant.
- Cronfa Cefnogi Prentisiaid
Mae pobl ifanc yn gorfod symud i ffwrdd o Ganolbarth Cymru i barhau â’u haddysg neu i gael swyddi sy'n talu'n well, tra bod y rhai sy'n aros yn cael trafferth i uwchsgilio er mwyn gwella'r cyfleoedd iddyn nhw a'u teuluoedd.
Gan annog mwy o bobl i ddilyn prentisiaethau ac aros yng Nghanolbarth Cymru, byddai'r Gronfa Cefnogi Prentisiaid ar gael i'r rhai hynny sydd ar gynllun prentisiaeth swyddogol llawn amser – ni waeth be fo’r cyflog – ac yn eu hesemptio rhag y Dreth Gyngor. Yna byddai'r gyfradd yn lleihau'n raddol wrth i'r prentisiaid symud o'u dysgu rhan amser i gyflogaeth llawn amser. Ar hyn o bryd, dim ond rhai prentisiaethau penodol sydd wedi’u hesemptio rhag y Dreth Gyngor.
- Estyn y Rhyddhad Treth ar Danwydd Gwledig
Prin yw'r gorsafoedd petrol yng Nghanolbarth Cymru, ac mae'n rhaid i bobl leol yrru ymhell i lenwi'r tanc, gan dalu pris uwch wrth wneud hynny. Nid oes gan bobl Canolbarth Cymru lawer o ddewis o ran newid i drafnidiaeth gyhoeddus, neu newid i gerdded neu feicio, oherwydd y pellterau mawr mae llawer yn eu hwynebu i gyrraedd eu pentref neu dref agosaf.
Trwy estyn y rhyddhad treth ar danwydd gwledig i rannau o Ganolbarth Cymru, bydd cymunedau'n elwa ar ostyngiad o 5c, a fydd yn eu helpu i fynd i'r gwaith a rhoi hwb i'r economi leol.
- Cronfa Adnewyddu Pentrefi
Yn ystod y pandemig, daeth pentrefi a threfi bychain Canolbarth Cymru ynghyd i gefnogi ei gilydd a chadw pawb yn ddiogel.
Ar ôl y pandemig, mae cymunedau eisiau adfywio’u hardaloedd lleol a pharhau â'r gwaith gwych a gyflawnont gyda'i gilydd. Gellir defnyddio'r gronfa i gefnogi gweithgareddau neu ddigwyddiadau lleol sy'n dod â budd cymdeithasol, fel caffis dementia a grwpiau unigrwydd, gan helpu i ailadeiladu cymunedau a mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio'n benodol ar bentrefi gwledig.
- Uwchraddio Ysbytai Cymunedol a Gweithio mewn Partneriaeth yn y GIG
Mae angen dod â mwy o wasanaethau i Ysbytai Cymunedol yng Nghanolbarth Cymru i leihau'r angen am deithio allan o'r ardal ar gyfer gwasanaethau a llawdriniaeth nad ydynt yn arbenigol. Drwy ddarparu mwy o wasanaethau rheolaidd yn lleol, a chynyddu nifer y gwelyau yn yr Ysbytai Cymunedol ar gyfer ymadfer a gwella, gallwn leddfu rhai o'r pwysau ar y gwasanaethau presennol a darparu gwasanaethau mwy effeithiol, sydd wedi'u targedu'n well, i bobl Canolbarth Cymru.
Mae'n rhaid i'r GIG sicrhau mynediad llyfn ac effeithlon at ofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru gyda gwasanaethau gofal iechyd mwy cydweithredol ar draws ardaloedd y Byrddau Iechyd, i wella'r canlyniadau i gleifion. Pan fod preswylwyr yn gorfod teithio o'u hardaloedd lleol yng Nghymru neu i Loegr, dylai mynediad at wasanaethau arbenigol a rhannu data fod yn hwylus i sicrhau parhad gofal.
- Moderneiddio'r A470
Rhaid blaenoriaethu darparu cysylltedd ffyrdd cynhwysfawr. Er y byddai deuoli'r A470 i gyd yn ymyrrol, yn ormodol, ac yn afrosgo – ac yn annichonadwy mae'n debyg – byddai adeiladu mwy o leiniau o ffyrdd deuol, fel ffordd osgoi Aberhonddu, yn nod mwy cyraeddadwy.
Byddai archwilio opsiynau ar gyfer gwella’r llif traffig mewn ardaloedd lle mae defnydd uchel gan dwristiaeth neu lorïau, yn fuddiol i bobl leol, ymwelwyr a busnesau. Byddai uwchraddio’n gyfle i osod mannau gwefru CT cyflym, gan sicrhau bod Canolbarth Cymru yn barod am y pontio o gerbydau petrol i rai trydan yn y dyfodol.
- Bwrdd Croeso Canolbarth Cymru
Gan fod bwrdd croeso mewn bod yng Ngogledd Cymru a De Cymru yn barod, mae'n hanfodol nad yw Canolbarth Cymru'n llusgo ar ei hôl hi. Yn ôl y diwydiant, byddai creu Bwrdd Croeso Canolbarth Cymru yn crynhoi twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru dan un faner, gan gydweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol i hybu'r holl fanteision mae Canolbarth Cymru'n eu cynnig – a gyda mwy o annibyniaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru.
- Dynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, ond does yr un yng Nghanolbarth Cymru er gwaethaf ei dirwedd hardd a'i sector twristiaeth sefydledig.
Byddai statws AHNE yn diogelu ffermydd a thir rhag tyrbinau gwynt mawr hyll, ond byddai angen cydbwysedd i sicrhau bod y ffiniau'n cael eu dynodi'n ofalus, gan ddarparu lle ar gyfer datblygu masnachol a phreswyl er budd cymunedau lleol.