Mae Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw am ‘system placiau glas addas i Gymru’ pan fydd yn ymweld â'r Eisteddfod yn Nhregaron heddiw.
Ar hyn o bryd, mae placiau glas yng Nghymru yn ymgodi o wahanol gynlluniau lleol. Dywedodd Davies ei fod eisiau gweld cynllun cenedlaethol i Gymru, yn dilyn trafodaethau gydag etholwyr sydd wedi cael trafferth gyda'r system bresennol. Byddai hwn yn ariannu ac yn cyd-drefnu gosod placiau dwyieithog ar draws Cymru.
Wrth wneud yr alwad, dywedodd hefyd y byddai'n cyflwyno cais i'r system newydd am i Derrick Hassan gael ei goffáu gyda phlac glas ar y tŷ lle'r oedd yn byw yn Rhiwbeina. Derrick Hassan, a fu farw ym mis Mai, oedd y plismon du cyntaf i wasanaethu yn Heddlu De Cymru.
Meddai Andrew RT Davies AS:
“Mae placiau glas yn ffordd ardderchog o ddathlu ein hanes. Maent yn ein hatgoffa o'r bobl ysbrydoledig oedd yn byw yn ein pentrefi, trefi a'n dinasoedd, ac maent yn ein hysbrydoli i geisio gwneud pethau mawr.
“Mae'r system blaciau, fel y mae, yn dameidiog, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd rhyngweithio â hi.
“Dyna pam rwy'n galw am system placiau glas addas i Gymru.
“Fel arfer, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau lleihau nifer y cwangos, ond yn yr achos hwn, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig cael siop un safle ar gyfer y dynodwyr mawr glas hyn o’n hanes.
“Os gwrando gweinidogion Llafur arnom a sefydlu'r corff cenedlaethol hwn, byddaf yn gwneud cais am i Derrick Hassan dderbyn plac glas.
“Derrick oedd y plismon du cyntaf i wasanaethu gyda Heddlu De Cymru, ac rwy'n credu y byddai dathlu hyn gyda phlac glas ar ei dŷ yn Rhiwbeina yn ardderchog.”