Mae'r Blaid Geidwadol yn disgwyl safon ymddygiad penodol gan ei holl aelodau ac mae'n cymryd honiadau o gamymddwyn o ddifrif.
Gobeithiwn na fydd gan aelodau'r Blaid neu aelodau o'r cyhoedd unrhyw reswm dros wneud cwyn ynglŷn ag aelod o'r Blaid, ond os felly y bydd hi, bydd y gŵyn yn cael ei thrin yn deg ac yn ddiduedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cod Ymddygiad a’r Broses Ddisgyblu, neu i wneud cwyn, defnyddiwch y dolennau isod neu cliciwch yma.
Bydd cwyn yn cynnwys honiadau o gamymddwyn neu ymddygiad annerbyniol gan aelod o'r Blaid Geidwadol sydd wedi torri amodau'r safonau ymddygiad a esbonnir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau a Chynrychiolwyr y Blaid Geidwadol ac/neu reolau Cyfansoddiad y Blaid.
Rhoddir mwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl os gwnewch gŵyn neu os ydych yn destun cwyn, a sut mae'r weithdrefn a'n polisïau trin cwynion yn gweithio yn y Canllaw i’r Broses Ddisgyblu.
I wneud cwyn, byddwch cystal â llenwi ein ffurflen gyflwyno ar-lein.