Aelod Senedd Cymru dros Preseli Penfro.
Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi
Ganwyd Paul yn 1969 a chafodd ei fagu ym Mhontsiân ger Llandysul yng Ngheredigion. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac Ysgol Ramadeg Llandysul ac ar ôl ennill cymhwyster lefel A yn Ysgol Gyfun Castell Newydd Emlyn, ymunodd â Banc Lloyds yn 1987.
Cyn iddo gael ei ethol i Senedd Cymru, roedd Paul yn gweithio fel Rheolwr Busnes ym manc Lloyds yn Hwlffordd ble bu'n helpu i ddatblygu busnesau bach.
Ym mis Chwefror 2000, safodd Paul yn is-etholiad Seneddol Ceredigion a llwyddodd i wella safle'r Blaid Geidwadol o’r pumed yn yr etholiad Seneddol blaenorol i'r trydydd, gan wthio Llafur i'r pedwerydd lle.
Safodd hefyd yn etholiad cyffredinol 2001 fel ymgeisydd Seneddol dros Geredigion. Yn 2003, safodd ym Mhreseli Sir Benfro yn etholiad Senedd Cymru gan gynyddu’r gyfran o'r bleidlais o 23% i 30%. Cododd y Blaid Geidwadol o'r trydydd i'r ail safle – gyda dim ond 1,326 o bleidleisiau yn llai na Lafur.
Mae Paul wedi dal uwch swyddi yn y Blaid Geidwadol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru hefyd, fel cadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Ceredigion a dirprwy gadeirydd Ceidwadwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cafodd Paul ei ethol yn Aelod o Senedd Cymru dros Breseli Sir Benfro ym mis Mai 2007, gyda 38.6% o'r bleidlais a mwyafrif o 3,205. Cafodd ei ailethol yn 2011 ac yn 2016.
Mae Paul wedi bod yn gyfrifol am nifer o friffiau, yn cynnwys Addysg a'r Gymraeg, Cyllid a Materion Gwledig. Gwasanaethodd hefyd fel Rheolwr Busnes a Phrif Chwip grŵp Senedd Cymru cyn cael ei ethol yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru ym mis Medi 2018.
Mae Paul yn byw gyda'i wraig Julie ym Mlaen-ffos, Gogledd Sir Benfro – priodon nhw ym mis Medi 2006. Yn y gorffennol, mae Paul wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Boncath ac roedd yn Llywodraethwr ysgol am lawer o flynyddoedd. Ei brif ddiddordebau heblaw am wleidyddiaeth yw rygbi, darllen ac ymweld ag atyniadau hanesyddol.