Arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru
Aelod Senedd Cymru dros Ganol De Cymru.
Ganwyd Andrew RT Davies yn 1968 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanfair, St John’s, Balfour House a Choleg Wycliffe. Mae'n briod â Julia ac mae ganddo bedwar o blant.
Mae cefndir Andrew wedi’i seilio yn y gymuned fusnes – fel partner ym musnes ffermio'r teulu ym Mro Morgannwg.
Mae'n gyn-Lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llantrisant ac yn gyn-Gadeirydd Cymunedau Gwledig Creadigol, sefydliad sy'n ceisio hybu datblygu cymunedau mewn ffordd strwythurol. Mae Andrew yn gyn-gynrychiolydd Cymru ar Gyngor Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ac yn 2002 roedd yn Ysgolor Rhydychen Cymdeithas Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru.
Ymunodd Andrew â'r Ceidwadwyr Cymreig yn 1997 gan sefyll fel ymgeisydd seneddol yng Ngorllewin Caerdydd yn 2001 a Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2005.
Cafodd Andrew ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2007 ar restr ranbarthol Canol De Cymru a bu’n Weinidog Ceidwadol yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth, Busnes, Addysg ac Iechyd.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys yr economi, addysg, iechyd a materion gwledig. Cafodd Andrew ei ethol yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2011 a gwasanaethodd yn y rôl hon tan Fehefin 2018.
Mae Andrew yn llywodraethwr am oes ar Gymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru ac mae hefyd yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Bro Morgannwg.
Ar hyn o bryd mae'n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Derbyniodd Andrew CBE gan y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2020.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Andrew, ewch i'w wefan.