Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae gan Tom ddiddordeb mawr ym myd addysg gan iddo weithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan arolygu ac archwilio cyllideb addysg y cyngor sydd werth miliynau o bunnoedd. Mae Tom yn ymddiddori hefyd yn strwythurau a datblygiad llywodraeth leol a bu’n Arweinydd Grŵp Cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 4 blynedd.
Hanes personol
Magwyd Tom ym Mhenllergaer, Abertawe a Rhydaman, Sir Gâr gan fod ei rieni wedi gwahanu. Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yn 2013, parhaodd Tom i fyw yn Abertawe am nifer o flynyddoedd cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr yn 2016 lle mae'n byw gyda'i ddyweddi, Sadie.
Cefndir proffesiynol
Mae Tom yn siaradwr Cymraeg ail iaith, ac mae wedi dal nifer o swyddi yn ystod ei fywyd proffesiynol. Yn gyntaf bu’n Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Yna aeth ati i gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, gweithiodd fel Swyddog Cyswllt Cymunedol yn rhanbarth Gorllewin De Cymru cyn trefnu ymgyrchoedd a gweithio gyda gwirfoddolwyr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Cyn iddo gael ei ethol yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, roedd Tom yn Rheolwr Swyddfa i’r Aelod Seneddol dros Ben-y-bont ar Ogwr.
Hanes gwleidyddol
Cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2021, bu Tom yn Gynghorydd i ward Bracla ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2017, ac roedd yn arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar y cyngor nes iddo gael ei ethol i'r Senedd yn 2021. Ym mis Mehefin 2021, penodwyd Tom yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.