Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru a Gweinidog Trafnidiaeth a Thechnoleg yr Wrthblaid.
Ganwyd a magwyd Natasha yng Nghasnewydd, a hi yw'r fenyw groenliw gyntaf i gael ei hethol i'r Senedd fel aelod rhanbarthol dros Dde Ddwyrain Cymru. Mae Natasha yn ferch i Dr Firdaus Asghar a'r diweddar Mohammad Asghar AS.
Cyn iddi gael ei hethol, bu Natasha yn gweithio yn y diwydiant Bancio, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn niwydiant y cyfryngau, gan gyflwyno sioeau ar y teledu a radio.
Safodd Natasha mewn nifer o etholiadau cyn etholiad Senedd 2021, ar gyfer Cynulliad Cymru, San Steffan a Senedd Ewrop.
Ers iddi gael ei hethol, mae Natasha wedi cael ei chyfweld gan y BBC, ITV, The South Wales Argus, The National, The Caerphilly Observer a’r cylchgrawn Cymraeg, Golwg, ac mae wedi ymddangos ar Sharp End.
Hi oedd yr Aelod cyntaf o'r Senedd i gael ei chyfweld gan GB News a chafodd ei disgrifio fel ‘Grym er newid' gan British Vogue.
Penodwyd Natasha yn Weinidog Trafnidiaeth a Thechnoleg yr Wrthblaid i’r Ceidwadwyr Cymreig ac mae'n gweithio'n selog i gyflwyno cerdyn teithio Cymru Gyfan sy'n debyg i'r cerdyn Oyster yn Llundain. Mae'n gobeithio y bydd hwn yn galluogi pawb yng Nghymru, yn breswylwyr a thwristiaid, i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, am brisiau tryloyw a fforddiadwy, ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus well, a fydd yn rhoi hwb mawr ei angen i economi Cymru.
Mae ganddi radd BA mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol ynghyd â Gradd Meistr mewn Polisi Prydeinig a'r cyfryngau o Brifysgol Llundain.