Aelod Senedd Cymru dros Ogledd Cymru.
Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid.
Ganwyd Mark, sy'n byw yn Sir y Fflint, yn 1955 ac mae'n Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Ogledd Cymru. Mae ganddo ef a'i wraig, Hilary, chwech o blant ac un ŵyr. Cyn iddo gael ei ethol i Senedd Cymru yn 2003, roedd yn gweithio fel Rheolwr Ardal mewn Cymdeithas Adeiladu yng Ngogledd Cymru.
Yn 2018, cafodd ei benodi'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gymunedau a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru.
Graddiodd Mark mewn gwleidyddiaeth o Brifysgol Newcastle, ac mae'n Gymrawd Sefydliad Siartredig y Bancwyr hefyd. Mae gan Mark ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes, economaidd, a chymdeithasol. Mae'n gyn-Gynghorydd Cymuned ar gyfer Treuddyn, yn gyn- Lywodraethwr (a Chadeirydd) Ysgol Parc y Llan ac yn gyn-Aelod o Fwrdd Gwirfoddol Cymdeithas Dai Venture, lle mae'n parhau i fod yn Aelod.
Mae ei ddiddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn troi o gwmpas ei deulu a'i gartref. Mae'n gyn-Gadeirydd y Bwrdd Crwn yn Yr Wyddgrug.
Mae'n Aelod o'r Grwpiau Trawsbleidiol ar Faterion y Byddar, Angladdau a Phrofedigaeth, trais yn erbyn menywod a merched, Niwrowyddoniaeth, tai a hosbisau. Mae Mark yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth hefyd.
Mae Mark yn Llysgennad dros Geidiaid Clwyd, yn Is-lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Noddwr Canolfan Seibiant Tyddyn Bach ym Mhenmaenmawr, yn aelod o CAB Conwy ac yn llysgennad dros Hosbis Tŷ Clare. Roedd Mark yn sylfaenydd CHANT Cymru hefyd (Ysbytai Cymunedol yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd).