Aelod Senedd Cymru dros Ddwyrain De Cymru.
Gweinidog Addysg yr Wrthblaid.
Cafodd Laura Anne Jones ei hethol i Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2020 fel yr AS dros Ddwyrain De Cymru. Ar ôl cael ei hethol, penodwyd Laura i Gabinet yr Wrthblaid yn y Senedd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldebau, Plant a Phobl Ifanc.
Mae Laura yn eistedd ar Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ac ar y Pwyllgor Materion Allanol sy'n chwarae rhan yn arolygu ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Cyn hynny, gwasanaethodd Laura fel yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru rhwng 2003 a 2007, pan fu’n Weinidog yr Wrthblaid dros Chwaraeon yn y Cynulliad.
O 2017 ymlaen, gwasanaethodd Laura fel Cynghorydd Sir yn Sir Fynwy dros ward Wyesham a chafodd ei phenodi'n Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Sir. Roedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Blant a Phobl Ifanc, lle ymddiddorodd Laura mewn cyrhaeddiad a chyfleoedd ar gyfer plant agored i niwed yn bennaf. Mae Laura wedi rhedeg ei busnes ei hun yn y gorffennol.
Ganwyd Laura ym Mrynbuga, yn ferch i ffermwr, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Caerllion a Phrifysgol Plymouth. Mae Laura yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau yn y gymuned leol yn Sir Fynwy, ac yn 2020 rhedodd nifer o grwpiau cymorth Coronafeirws i helpu teuluoedd sy’n agored i niwed ac ar y rhestr warchod.