Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol.
Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru.
Ganwyd Sam ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhenygroes, ger Caernarfon, cyn symud i Abergele pan oedd yn naw mlwydd oed. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn. Gweithiodd Sam i HSBC rhwng 2009 a 2019 fel rheolwr risg credyd a rhoddodd hyn brofiad rhyngwladol iddo. Mae ganddo radd mewn rheoli busnes hefyd. Priododd â Natasha yn 2008 ac mae ganddynt dair merch.
Cafodd Sam ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Abergele am y tro cyntaf yn 2008. Sam oedd Maer ieuaf Abergele rhwng 2015 a 2016 a chafodd ei benodi'n Aelod Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2017 cyn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor yn 2019. Safodd Sam yn etholaeth Dyffryn Clwyd yn etholiadau'r Senedd yn 2016 a chael ei ethol i gynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn 2021. Ar ôl cael ei ethol, penodwyd Sam yn llefarydd y Blaid Geidwadol dros lywodraeth leol yng Nghymru.
Ym Mehefin 2021, penodwyd Sam yn Weinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol.