Mae Samuel Kurtz yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Penfro ac yn Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Cafodd Sam ei eni a'i fagu ar fferm y teulu, sy’n cynnig unedau gwyliau hunanarlwyo, yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'n siaradwr Cymraeg a fynychodd ysgolion lleol cyn ennill gradd BA Anrh mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.
Ar ôl graddio, dychwelodd Sam i Sir Benfro i weithio fel gohebydd a newyddiadurwr lleol i'r Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph cyn dechrau gweithio yn swyddfa'r Aelod Seneddol lleol.
Cafodd Sam ei ethol i Gyngor Sir Penfro yn 2017, ac mae ganddo hanes cryf o sefyll o blaid ei gymuned, rhoi cymorth ymarferol i etholwyr, a bod yn llais drostynt yn Siambr y Cyngor.
Blaenoriaethau gwleidyddol Sam yw sicrhau bod cyfleoedd am swyddi medrus ar gael i bobl leol, cefnogi'r GIG yng Nghymru drwy ddarparu'r adnoddau angenrheidiol, a datblygu economi wledig Gorllewin Cymru, gan adeiladu ar elfennau cadarnhaol twristiaeth ac amaethyddiaeth.
Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Sam yn is-gadeirydd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, ac yn y gorffennol mae wedi ennill nifer o gystadlaethau yng Nghymru ac yn genedlaethol, yn cynnwys mewn siarad cyhoeddus, adloniant ar lwyfan a materion gwledig.
Mae Sam yn frwd dros chwaraeon hefyd. Yn yr haf, bydd Sam yn chwarae criced ar draws Sir Benfro a Sir Gâr, ac yn ystod y gaeaf, mae'n chwarae pêl-droed a rygbi yn lleol.