Aelod o Senedd Cymru dros Ganol De Cymru. Gweinidog cysgodol dros Bartneriaeth Gymdeithasol.
Ganwyd a magwyd Joel James ym Mhontypridd ac ar hyn o bryd mae'n byw yn Llanilltud Faerdref. Astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Bryste, ac mae ganddo radd meistr yn Hanes Cymru o Brifysgol Caerdydd.
Yn 2008, Joel oedd y Cynghorydd Ceidwadol cyntaf erioed i gael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac ers hynny mae wedi cael ei ail-ethol ddwywaith ͏– yn 2012 a 2016.
Mae Joel hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref ar ôl cael ei ethol yn 2017 i gynrychioli pentref Efail Isaf.
Nes iddo gael ei ethol yn Aelod o'r Senedd ym mis Mai 2021, roedd Joel yn gweithio fel llyfrgellydd. Mae hefyd wedi gweithio fel ymchwilydd i Andrew RT Davies AS ac fel gweithiwr achos i Alun Cairns AS.