Mae Altaf Hussain yn cynrychioli Rhanbarth Gorllewin De Cymru fel Aelod o Senedd Cymru, ers iddo gael ei ethol ym mis Mai 2021. Mae'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb ac yn Ddirprwy Chwip, gyda chyfrifoldeb ychwanegol am Hawliau Dynol. Cyn hynny, bu’n Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2015 ac Ebrill 2016.
Mae Altaf yn Gynrychiolydd Eiledol y Ceidwadwyr Cymreig ar y Pwyllgor Busnes, yn Gynrychiolydd Eiledol y Ceidwadwyr Cymreig ar y Pwyllgor Safonau, ac yn Eiriolwr dynodedig dros Bobl Hŷn. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Cynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynrychioli ward Pen-y-fai. Yn ogystal, mae’n Gynghorydd ar Gyngor Cymuned Castellnewydd Uwch
Mae Altaf yn Llywydd Cymdeithas Geidwadwyr Ardal De Orllewin Cymru ac roedd yn aelod o Fwrdd Plaid Geidwadol Cymru, gan wasanaethu fel Cadeirydd Ardal ar gyfer Gorllewin De Cymru.
Mae Altaf wedi treulio'i fywyd gwaith cyfan yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fel Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol, daliodd nifer o swyddi clinigol pwysig yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi bod yn gymrawd Coleg Rhyngwladol y Llawfeddygon ers 1987 a Chymdeithas Orthopaedig Prydain yn y DU ers 1985. Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn Diwtor yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Gwasanaethodd Altaf fel Goruchwyliwr Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful rhwng 2005 a 2009, lle'r oedd yn Glinigwr Arweiniol ar y Grŵp Llywio ar gyfer gweithredu Canllawiau NICE, ac ar gyfer Effeithiolrwydd ac Archwilio Clinigol. Mae'n parhau i fod yn diwtor mewn Llawfeddygaeth Orthopaedig ac mae ganddo nifer o swyddi golygyddol sy'n caniatáu iddo helpu i siapio a phennu cyfeiriad gwaith ymchwil yn y dyfodol yn y gangen hon o feddygaeth.
Mae gan Altaf hanes disglair ym myd ymchwil a phriodolir datblygu nifer o dechnegau llawfeddygol newydd iddo. Mae wedi cyfrannu nifer o erthyglau i amryw gyfnodolion rhyngwladol ac wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei gyflawniadau.
Yn ei amser hamdden, mae Altaf yn mwynhau chwarae golff, darllen a chadw'n heini. Mae'n briod â Khalida, a fu'n feddyg teulu yn Ne Cymru cyn iddi ymddeol. Mae ganddynt ddau blentyn, ac maent yn mwynhau treulio amser gyda'u hwyrion.