Aelod Senedd Cymru dros Orllewin Clwyd
Gweinidog Cysgodol y Cyfansoddiad, Gogledd Cymru a'r Prif Chwip
Cafodd Darren ei ethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2007 a chafodd ei ddychwelyd i'r Senedd yn 2011 a 2016 gan gynyddu ei fwyafrif ym mhob etholiad.
Magwyd Darren yn Nhywyn, a bellach mae'n byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig Rebekah a'u dau blentyn, Mary a Toby. Mae'n mwynhau darllen a hanes.
Ar hyn o bryd, mae Darren yn gwasanaethu ar fainc flaen y Ceidwadwyr Cymreig fel Prif Chwip a Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Allanol a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Polisi i Grŵp Senedd Cymru ac yn gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Polisi ar Fwrdd Plaid Geidwadol Cymru. Yn ogystal, mae'n Cadeirio Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Ffydd, a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a Chadetiaid, y mae'n un o'i sylfaenwyr.
Rhwng Mai 2016 a Medi 2018, gwasanaethodd Darren fel Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Addysg a Phlant ac yn ystod y cyfnod hwn roedd yn aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru. Cyn iddo gael ei ailethol i Senedd Cymru yn 2016, gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Phobl Hŷn, a Chadeiriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol yn Senedd Cymru.
Yn ystod ei dymor cyntaf mewn swydd, bu Darren yn Weinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Chynllunio a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymunedau a Llywodraeth Leol. Tra roedd yn gwasanaethu yn y rolau hyn, eisteddodd hefyd ar Bwyllgor Menter a Dysgu a Phwyllgor Cynaliadwyedd Senedd Cymru, a Chadeiriodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.
Cyn iddo ddod yn aelod o Senedd Cymru, roedd Darren yn gweithio fel rheolwr i elusen ryngwladol. Bu hefyd yn gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.
Mae Darren yn Rheolwr Siartredig, yn Gymrawd o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), Cymrawd o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a Chymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA). Cafodd ei gomisiynu’n Weinidog gan Gynulliadau Duw ym Mhrydain Fawr ym mis Mai 2015.
Yn 2000/2001, Darren oedd y Maer mewn swydd ieuaf yng Nghymru, gan wasanaethu treflan Tywyn a Bae Cinmel. Hyd y gŵyr, mae’n dal y record hon o hyd. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.